Storio data

Cyfrwng biolegol i storio data yw helics dwbwl o RNA

Cofnodi gwybodaeth a'i gadw dros gyfnod o amser yw storio data. Ymhlith yr enghreifftiau o storio data mae: ysgrifennu, DNA ac RNA, recordiad ffonograffig, tâp magnetig a disgiau optegol, y co bach, CD-ROMiau a chodau bar. Mae'r dulliau digidol o storio data, integreiddio data, cloddio data, glanhau data, dadansoddi data a phrosesu data yn ddibynnol ar drydan. Gelwir y math hwn o ddata'n "ddata digidol".

Un o amcanion pwysicaf y cyfrifiadur yw storio data digidol ac un o fanteision storio dogfennau ar ffurf digidol yw eu bod yn cymryd llai o le i'w storio na'r dogfennau papur traddodiadol. Mantais arall yw y gellir gwneud copiau perffaith o'r ddogfen heb fawr o drafferth, ac felly mae diogelwch y wybodaeth yn y ddogfen yn fwy diogel. Gellir cadw copiau o'r ffeil ar weinydd cyfrifiadurol mewn adeilad arall, rhag ofn i'r gweinydd dorri, neu fethu mewn unrhyw fodd. Ond ceir ochr negyddol i wneud mwy nag un copi, sef ei bod yn anos gwarchod y data rhag pobl na ddylent ei weld; oherwydd hyn, mae llywodraethiant data wedi'i ddiffinio drwy ddeddfau.


Developed by StudentB